PET(4)-03-12 p14a

P-04-331 Ffilmio a Recordio Cyfarfodydd Cynghorau

Geiriad y ddeiseb
Galwn ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i’w gwneud yn ddyletswydd statudol ar bob awdurdod lleol yng Nghymru i recordio neu ddarlledu holl gyfarfodydd cynghorau sy’n agored i’r cyhoedd, neu eu ffrydio ar y we, er mwyn bod yn agored a thryloyw. Dylai’r ddyletswydd hon alluogi’r cyhoedd, fel arsyllwyr cyfrifol, i recordio neu ffilmio cyfarfodydd o’r fath heb gael caniatâd o flaen llaw, a rhoi rhwydd hynt iddynt ddefnyddio’r deunyddiau y maent yn eu recordio i ddarparu cyswllt uniongyrchol ac ehangach â’r etholwyr.

Cyflwywyd y ddeiseb gan: Jacqui Thompson

Ystyriwyd y ddeiseb gan y Pwyllgor am y tro cyntaf: Medi 2011

Nifer y llofnodion:223